CYFARWYDDWR CYLLID

Cyfarwyddwr Cyllid

Ydych chi’n barod i arwain dyfodol ariannol mudiad sy’n ganolog i sector gwirfoddol Cymru? Fel Cyfarwyddwr Cyllid CGGC, byddwch yn chwarae rôl annatod mewn gyrru strategaeth ariannol a llunio twf cynaliadwy. Os ydych chi’n frwd am wneud gwahaniaeth ac yn chwilio am swydd arweinyddiaeth lle bydd eich arbenigedd yn cynorthwyo cymunedau a mentrau gwirfoddol ledled Cymru’n uniongyrchol, dyma’ch cyfle chi i ymgymryd â her ag effaith. Gydag opsiynau gweithio hybrid a chyflog cystadleuol, rydym yn cynnig cyfle i gydbwyso eich dyheadau proffesiynol â hyblygrwydd.

Rydym yn chwilio am arweinydd strategol sy’n ffynnu mewn amgylchedd dynamig, Yn rhan o’n Tîm Arweinyddiaeth, byddwch yn sicrhau rheolaeth ariannol gadarn ar draws yr holl weithrediadau, gan weithio’n agos gyda chydweithwyr uwch i wneud y gorau o adnoddau ac ehangu gwasanaethau CGGC. P’un a ydych yn paratoi adroddiadau ariannol, yn cysylltu ag archwilwyr neu’n rhoi cyngor ar gontractau mawr, bydd eich cyfraniad yn ganolog i’n llwyddiant parhaus. Os ydych chi’n rhannu ein gweledigaeth am Gymru degach a mwy cynhaliadwy, mae’r rôl hon yn cynnig y platfform i chi wneud newidiadau hirhoedlog.

Pam gweithio yn CGGC

Buddion: Mae’r rhain yn cynnwys 25 diwrnod o wyliau â thâl ynghyd ag wyth g yl banc, Cynllun Pensiwn Personol, Rhaglen Cymorth i Weithwyr, Cynllun Tâl Salwch uwch, gweithio hyblyg, cynllun arian gofal iechyd.

Rydym yn fudiad sy'n croesawu amrywiaeth. Mae gennym bolisïau rhagorol er mwyn cael cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, caiff gweithio hyblyg ei hybu, a’n diwylliant yw meithrin staff drwy arweinyddiaeth effeithiol a gwaith tîm rhagorol. Rydym yn falch o fod yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd.

Mae CGGC yn buddsoddi yn ei gyflogeion a'u datblygiad. Yn ogystal â bod yn Gyflogwr Cyflog Byw sy’n ymrwymedig i dalu'r cyflog byw gwirioneddol i staff, mae CGGC wedi derbyn achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl.

Cyfarwyddwr Cyllid

Categori Cymraeg: Dymunol

Llawn amser, 35 awr yr wythnos, yn hyblyg

£69,504 yn cynyddu i £72,285 y flwyddyn ar ôl cwblhau cyfnod prawf o chwe mis yn llwyddiannus. Bydd 9% o gyflog blynyddol y swydd yn cyfrannu at gynllun pensiwn cymeradwy CGGC.

Lleoliad: Hyblyg: Mae gennym swyddfeydd yn Aberystwyth, Caerdydd a'r Rhyl y gall staff eu defnyddio.

Yngl n â'r rôl

Mae hon yn rôl annatod mewn llunio dyfodol ariannol mudiad dynamig ac effeithiol yng nghanol sector gwirfoddol Cymru. Byddwch yn arwain strategaeth ariannol, yn gyrru twf cynaliadwy ac yn sicrhau rheolaeth ariannol gadarn ar draws yr holl weithrediadau. Trwy ddarparu mewnwelediadau strategol, byddwch yn helpu CGGC i ehangu ei wasanaethau a’i ddylanwad, gan weithio’n agos gyda’r tîm Arweinyddiaeth i wneud y gorau o’r adnoddau a chefnogi nodau’r mudiad.

Dyddiad cau: 21 Hydref 2024, 10am

Dyddiad cyfweliad: 5/6 Tachwedd 2024 (yng Nghaerdydd)

Croesawir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

Advertiser
Not For Profit People
Reference
6475
Employer
Not For Profit People
Network Category
Contract Type
Industry Sector
Town
Cardiff
Salary and benefits
£69504.00 - £72285.00 Per Annum
View Employer